Aelodaeth
Gall aelodau Clwb Golff Dinbych gymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau ac achlysuron yn y clwb. Gall aelodau hefyd gyflwyno hyd at dri gestai am delerau gostyngedig. Yn ogystal, gall aelodau fwynhau sawl budd gan gynnwys golff safle arall, diod/bwyd rhatach, a gostyngiadau i aelodau yn siop y Pro.
AELODAETH LLAWN – £540.00 y flwyddyn
Mae aelodaeth llawn yn caniatau i chi chwarae’n ddi-rwystr a mwynhau holl fanteision Dinbych.
Prif Fanteision:
Telerau rhatach i’ch gwesteion sy’n talu am chwarae
Llogi Bygi/Trol yn rhatach
Telerau aelodau am fwyd/diod
Gostyngiad o 5% yn siop y Pro (eitemau penodol)
AELODAETH GWLAD – £350.00
Mae aelodaeth gwlad yn caniatau i chi chwarae’n ddi-rwystr a mwynhau holl fanteision Dinbych. I fod yn gymwys am aelodaeth gwlad rhaid i’r ymgeisydd fyw 30 milltir neu fwy o Glwb Golff Dinbych fel yr hed y frân.
AELODAETH CANOLRADD – £180.00 i £450.00
Mae aelodaeth canolradd yn caniatau i’r aelod yr un hawliau chwarae ag aelod llawn ac mae ar gael i aelodau rhwng 18 a 30 oed. Mae’r aeldoaeth yma’n cynyddu’n raddol o ran pris nes bod yr aelod yn cyrraedd 31 pan fydd angen talu aelodaeth llawn.
AELODAETH IEUENCTID – £65.00 y flwyddyn
Mae aelodaeth ieuenctid ar gyfer aelodau dan 18oed. Mae rhwystrau pan gaiff aelodau ifanc chwarae a pha gystadlaethau sy’n agored iddynt.
Mae gennym hefyd y dewis o dalu’n fisol am bob aelodaeth blwyddyn – yn defnyddio Fairway Credit.
Am wybodaeth pellach a ffurflen gais am aelodaeth cysylltwch â Ben ar 01745 816669